Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Ebrill 2014 i'w hateb ar 7 Mai 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

1. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol yng Nghwmbrân? OAQ(4)0435(HSS)

 

2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect yr ysbyty newydd yng ngogledd sir Ddinbych? OAQ(4)0425(HSS)

 

3. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu cynghreiriau gofal fel rhan o Raglen De Cymru? OAQ(4)0438(HSS)W

 

4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â mynediad i Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(4)0426(HSS)

 

5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad y GIG yng Nghymru? OAQ(4)0424(HSS)

 

6. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd targed triniaeth gofal canser yng Nghymru? OAQ(4)0432(HSS)

 

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adnoddau ambiwlans yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0428(HSS)W

 

8. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyfradd beichiogrwydd yn yr arddegau yng Nghymru? OAQ(4)0431(HSS)

 

9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y gwnaiff y Gweinidog eu cymryd i wella gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru yn 2014? OAQ(4)0423(HSS)

 

10. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o argymhellion Adroddiad Nuffield ar gasglu data yng Nghymru? OAQ(4)0436(HSS)

 

11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau dialysis yng Nghymru? OAQ(4)0433(HSS)

 

12. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd triniaeth canser yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0422(HSS)

 

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella triniaeth i bobl â salwch anadlol? OAQ(4)0430(HSS)

 

14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y Cynllun Iechyd Gwledig? OAQ(4)0437(HSS)

 

15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Faint o geisiadau am y cyffur canser y coluddyn Avastin sydd wedi eu cymeradwyo yn ardal Gogledd Cymru? OAQ(4)0429(HSS)

 

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

1. Gwyn Price (Islwyn): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y mae Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd wedi ei chael ar drechu tlodi yn Islwyn? OAQ(4)0173(CTP)

 

2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffigurau tlodi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0170(CTP)

 

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch diogelu Swyddfeydd Post yng Nghymru?  OAQ(4)0166(CTP)W

 

4. Andrew RT Davies: (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd rhaglen Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0165(CTP)

 

5. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu cynaliadwy?  OAQ(4)0164(CTP)W

 

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella cysylltiadau cymunedol yng Nghymru yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ(4)0160(CTP)

 

7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal plant mewn cymunedau gwledig? OAQ(4)0163(CTP)

 

8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(4)0161(CTP)

 

9. Sandy Mewies (Delyn):Pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran gweithredu Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0169(CTP)

 

10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith y dreth ystafell wely ar yr unigolion a’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru? OAQ(4)0171(CTP)W

 

11. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer cryfhau cydlyniant cymunedol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0167(CTP)

 

12. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau Llywodraeth Cymru i gefnogi banciau bwyd yng Nghymru? OAQ(4)0174(CTP)W

 

13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y gwnaiff y Gweinidog eu cymryd i wella cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru yn 2014? OAQ(4)0159(CTP)

 

14. Sandy Mewies (Delyn):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo aelodaeth o undebau credyd yng Nghymru? OAQ(4)0168(CTP)

 

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o reolaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Northgate o'r contract allanol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol? OAQ(4)0172(CTP)